Geiriau am eiriau: Blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Murmur

Geiriau am eiriau: blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Pennau yn y cymylau

Chwefror 19, 2009 gan murmur
Adran: SALT Cymru, Iaith: Cymraeg, Newyddion - News, Cyffredinol - General

Technolegau Iaith a Lleferydd yn y Cymylau

Cyfleoedd a Heriau Cyfrifiadura Cwmwl

Siaradwr gwadd: Dewi Jones o Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor

Dydd Mawrth y 3ydd o Fawrth
6.00yh – 8.00yh
(Bydd y drysau’n agor am 5.30pm ar gyfer darparu lluniaeth)
Technium CAST
Parc Menai
Bangor
LL64 4HJ

Ceir nifer ddryslyd o ddiffiniadau ar gyfer ‘Cyfrifiadura Cwmwl’, (’Cloud Computing’) gyda rhai’n defnyddio ‘cwmwl’ fel trosiad haniaethol ar gyfer yr adeiledd cymhleth sydd yn ffurfio’r sail anweledig i’r rhyngrwyd. Mae’r ‘cwmwl‘ yn cynnwys sawl tuedd ddiweddar mewn technoleg meddalwedd, yn ogystal â geiriau’r funud fel Meddalwedd fel Gwasanaeth (SaaS) a’r ‘We 2.0′ (a Gwe 3.0 hyd yn oed), lle mai’r thema ganolog yw dibynnu ar y Rhyngrwyd yn hytrach na chyfrifiadur personol ar gyfer diwallu anghenion y defnyddiwr. Mae gan y dull hwn o ymdrin â darparu cymwysiadau a storio data ei gefnogwyr a’i feirniaid.

Bydd Dewi yn mynd ati i gyflwyno’r cyfleoedd a’r heriau y gallai cyfrifiadura cwmwl ei gynnig i’r gwaith ymchwil a datblygu technolegau iaith a lleferydd sy’n digwydd ym Mangor. Bydd arddangosiad o gymwysiadau gwe arbrofol a ddatblygwyd yn yr Uned yn cael eu defnyddio er mwyn enghreifftio’r dechnoleg ac i ffurfio sail i drafodaeth bellach.

Mae’r digwyddiad hwn yn RHAD AC AM DDIM, ond rhaid archebu lle o flaen llaw.

Gellir archebu lle drwy e-bostio j.a.pike@bangor.ac.uk

Gallwch hefyd gysylltu â Rob neu Judith ar 01248 388245

 

SALT in the Cloud

Chwefror 19, 2009 gan murmur
Adran: SALT Cymru, Language: English, Newyddion - News, Cyffredinol - General

Speech and Language Technologies in the Clouds

Challenges and Opportunities from Cloud Computing

Guest speaker: Dewi Jones from the Language Technologies Unit Bangor University
Tuesday 3rd March
6.00pm – 8.00pm
(Doors open 5.30pm for refreshments)
Technium CAST
Parc Menai
Bangor
LL64 4HJ

There are a confusing number of definitions for ‘Cloud Computing’, some use ‘cloud’ as a metaphor for the internet as an abstraction of complex infrastructure that it conceals. The ‘cloud’ incorporates many recent software technology trends and buzzwords such as Software as a Service (SaaS) and ‘Web 2.0′ (even Web 3.0) in which a common theme is reliance on the Internet (rather than the personal computer) for satisfying the computing needs of users.This approach to delivery of applications and data storage has its fans and critics.

Dewi will present the challenges and opportunities cloud computing could have in store for their speech and language technologies research and development work at Bangor. Demonstrations of experimental web based applications, developed at the Unit, will be used as a basis for illustration and discussion.

 

The event is FREE to attend, however advance booking is essential

To book a place please email j.a.pike@bangor.ac.uk

Alternatively you can contact Rob or Judith on 01248 388245

Offer Cymraeg ar gyfer OpenOffice.org fersiwn 3

Yn dilyn rhyddhau fersiwn 3 o OpenOffice.org roedd angen diweddaru ac ail-becynnu’r gwirydd sillafu Cymraeg sylfaenol a ddatblygwyd gennym nôl yn 2004 ar gyfer OpenOffice.org. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y gwirydd diwygedig yn awr ar gael ar ffurf estyniad, ac mae modd ei lwytho i lawr a’i osod o

http://extensions.services.openoffice.org/project/lingucomponent-cy.

Cofiwch hefyd fod fersiwn Cymraeg o ryngwyneb fersiwn 3 OpenOffice.org ar gael, wedi’i leoleiddio gan criw Meddal.com. Ewch i http://ftp.linux.cz/pub/localization/OpenOffice.org/devel/OOO300/OOO300_m9/Build-2/ i lwytho lawr y fersiwn ar gyfer eich system weithredu chi h.y. Windows, Mac neu Linux)

Diweddariadau Cysill a Cysgeir, Hydref 2008

Hydref 22, 2008 gan murmur
Adran: Diweddariadau, Cysgliad, Iaith: Cymraeg, Terminoleg - Terminology

Yn dilyn ein diweddariad ar gyfer Cysill 3.0 , mae diweddariad o fersiwn cartref Cysgeir 1.0 nawr hefyd ar gael. Os nad yw Cysgeir ei hun wedi eich hysbysu o’r diweddariad, yna dewiswch o’r brif ddewislen

  • Help -> Chwilio am ddiweddariad

neu

  • Ymddangosiad -> Dewisiadau -> Diweddaru -> Edrych Nawr

Yn niweddariad Cysgeir

  • ceir trefn newydd o dderbyn geiriaduron newydd a diweddaru rhai sydd eisoes ar gael.
  • cyflymwyd Cysgeir wrth gychwyn
  • cynorthwyir OpenOffice.org 3.0

Wedi i chi ddiweddaru’n llwyddiannus, dewiswch o’r brif ddewislen

  • Cymorth -> Chwilio am Ddiweddariadau Geiriaduron

Mae yno rai cywiriadau i eiriadur Cysgair (y geiriadur cyffredinol cynhwysfawr o fewn Cysgeir), fersiwn newydd o Y Termiadur (sy’n disodli Y Termiadur Ysgol) a’r geiriaduron termau newydd canlynol :

  • Termau Gofal Iechyd Pobl Hŷn
  • Termau Therapi Galwedigaethol

Cysill and Cysgeir updates, October 2008

Hydref 22, 2008 gan murmur
Adran: Updates, Cysgliad, Language: English, Terminoleg - Terminology

 

Following our update for Cysill 3.0, there is now an update for Cysgeir 1.0 available.  If Cysgeir hasn’t notified you itself of the update, then choose from the main menu

  • Help -> Check for Updates

or

  • View -> Options -> Updates -> Check Now

In this Cysgeir update :

  • enhancments to how you receive new an/or updated dictionaries
  • startup speed of Cysgeir improved
  • support for OpenOffice.org 3.0

After you’ve successfully updated the Cysgeir application, choose from the main menu:

  • Help -> Check for Dictionary Updates

There are some corrections to the Cysgair dictionary (the comprehensive general language dictionaryin Cysgeir), a new version of the Termiadur (which supersedes Y Termiadur Ysgol) and the following new terminology dictionaries :

  • Terms in the Health Care of Older People
  • Terms for Occupational Therapy

Cysill, diweddariad fersiwn cartref, Hydref 2008

Hydref 20, 2008 gan murmur
Adran: Diweddariadau, Cysgliad, Iaith: Cymraeg

Mae diweddariad o fersiwn cartref Cysill 3.0 nawr ar gael. Os nad yw Cysill ei hun wedi eich hysbysu o’r diweddariad, yna dewiswch o’r brif ddewislen

  • Help -> Chwilio am ddiweddariad

Yn y diweddariad hwn

  • ceir ychwanegiadau i lecsicon sillafu a chronfa rheolau gramadeg Cysill
  • datryswyd problemau gyda marciau cwestiwn mewn dogfennau
  • cyflymwyd Cysill wrth gychwyn
  • cynorthwyir OpenOffice.org 3.0

Cysill, home edition update, October 2008

Hydref 20, 2008 gan murmur
Adran: Updates, Cysgliad, Language: English

An update for the home edition of Cysill 3.0 is now available. If Cysill hasn’t notified you itself of the update, then choose from the main menu

  • Help -> Chwilio am ddiweddariad

In this update are

  • additions to Cysill’s spelling lexicon and the grammar rules database.
  • problems caused by question marks resolved. atryswyd problemau gyda marciau cwestiwn mewn dogfennau
  • startup speed of Cysill improved
  • support for OpenOffice.org 3.0

Cynadleddau fu ac i ddod

Hydref 15, 2008 gan murmur
Adran: Iaith: Cymraeg, Newyddion - News, Cyffredinol - General

Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai reit brysur i ni. Yn gyntaf bu i ni gynnal cynhadledd lwyddiannus iawn yma ym Mangor ar Gyd-ddealltwriaeth Fyd-eang mewn Cyd-destunau Amlieithog, Amlgyfrwng ac Amlfodd (GUM3C). Cafodd pob siaradwr dderbyniad brwd, a rhoddodd ein dau brif siaradwr, Christian Galinski a David Crystal, gyflwyniadau rhagorol. Mae’r papurau wedi’u cyhoeddi ar-lein ar wefan GUM3C ar http://www.GUM3C.org.

Wythnos ddiwethaf siaradodd Delyth Prys mewn cynhadledd ar Ieithoedd Lleiafrifol yn Bilbao, Gwlad y Basg. Yr un fath â’n Cynhadledd GUM3C ni, trefnwyd hon i ddathlu Blwyddyn Ieithoedd UNESCO, ac roedd hwn yn gyfle arall i gyfarfod â phobl o gyffelyb fryd o wledydd eraill. Roedd hi’n fraint arbennig cael cyfarfod â phobl sy’n datblygu adnoddau iaith ar gyfer y Fasgeg, a gobeithiwn y bydd cyfle i ni weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol ar broject ar y cyd yn ymwneud â meddalwedd Basgeg/Cymraeg. Mae angen crybwyll yn arbennig enw Luistxo Fernandez a siaradodd hefyd yn y gynhadledd, ac sy’n cadw blog dwyieithog Basgeg/Saesneg ar http://eibar.org/blogak/luistxo/en. Mae gwefan cynhadledd UNESCO Gwlad y Basg i’w gweld ar http://www.hizkuntzagutxituak.net/.

Gan symud ymlaen i gynhadledd a fydd yn digwydd y mis nesaf, rydym yn edrych ymlaen at gynhadledd LULCLII yn Bolzano ger y ffin rhwng yr Eidal ac Awstria. (lle mae Otzi y dyn yn yr iâ yn cael ei gadw mewn amgueddfa a godwyd yn arbennig ar ei gyfer). Mae’n beth prin iawn cael cynhadledd academaidd sy’n ymdrin yn unig â Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol ar gyfer Ieithoedd Llai eu Defnydd, a mynychodd pedwar o’n tîm y gynhadledd gyntaf o’i bath yn Bolzano yn 2005. Mae rhai ohonom yn gobeithio mynychu’r gynhadledd unwaith eto y tro hwn, ac mae fersiwn cyntaf rhaglen y gynhadledd i’w weld ar http://www.eurac.edu/lulcl2. Fe rown ni wybod i chi eto sut hwyl gawn ni arni yno.

Conferences Past and Future

Hydref 15, 2008 gan murmur
Adran: Language: English, Newyddion - News, Cyffredinol - General

It’s been a busy few weeks for us. First of all we hosted the very succesful Global Understanding in Multilingual, Multimodal and Multimedia Contexts (GUM3C) conference here at Bangor. All the presentations were well-received, and our two keynote speakers, Christian Galinski and David Crystal, gave outstanding talks. The papers have been published on-line on the GUM3C website at http://www.GUM3C.org.

Last week Delyth Prys spoke at a conference on Minority Languages in Bilbao, the Basque Country. Like our own GUM3C Conference this was organised to celebrate the UNESCO Year of Languages, and this was another chance to meet with like-minded people from other countries. Meeting and talking to people engaged in developing Basque language resources was a special privilage, and we hope that we may work together in future on a joint Welsh/Basque software project. A special mention is due here to Luistxo Fernandez who also spoke at the conference and who keeps a bilingual Basque/English blog at http://eibar.org/blogak/luistxo/en. The Basque UNESCO conference website is at http://www.hizkuntzagutxituak.net/.

Moving on to a conference which is happening next month, we are looking forward to the LULCLII conference at Bolzano on the Italian/Austrian border (where Otzi the iceman is kept in a purpose-built museum). It is a very rare thing to find an academic conference entirely dedicated to Comuptational Linguistics for Lesser Used Languages, and four of our team attended the first such conference at Bolzano in 2005. Some of us hope to attend again this time, and the first draft of the conference programme has now been posted at http://www.eurac.edu/lulcl2. We’ll let you know how we get on there.

Dau Eiriadur Termau Newydd

Cyn i Eisteddfod Genedlaethol 2008 fynd yn llwyr o’n cof, mae’n siŵr y dylem ddathlu’r ffaith fod dau eiriadur termau newydd y buom wrthi’n ddyfal yn gweithio arnynt dros y misoedd diwethaf wedi cael eu lansio yno, y naill yn stondin Prifysgol Bangor, a’r llall ar stondin Mantais.

Mae Geiriadur Termau’r Gyfraith yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Uned Technolegau Iaith ac Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor, gyda Dewi Llŷr Jones, darlithydd yn Ysgol y Gyfraith, yn cymryd y rhan flaenaf fel arbenigwr pwnc. Mae wedi’i anelu yn bennaf at fyfyrwyr sy’n astudio’r gyfraith drwy’r Gymraeg ar lefel prifysgol, ond bydd yn ddefnyddiol hefyd i rai sy’n astudio’r gyfraith yn yr ysgol uwchradd, i aelodau o’r proffesiwn cyfreithiol sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, i gyfieithwyr a gweinyddwyr dwyieithog, a phawb sy’n ymddiddori yn y gyfraith a’r Gymraeg. Mae’r geiriadur ar gael ar ffurf cyfrol bapur draddodiadol yn cynnwys dros 1,000 o dermau gyda diffiniadau cryno Cymraeg a Saesneg.

Geiriadur Termau’r Gyfraith / Dictionary of Legal Terms, gol. Dewi Llŷr Jones, Delyth Prys, Owain Lloyd Davies. Prifysgol Bangor, 2008.
ISBN 978-1-84220-110-7. R.R.P. £5.

Mae Geiriadur Termau’r Diwydiannau Creadigol yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Uned Technolegau Iaith â Phanel Rhwydwaith y Cyfryngau Creadigol, Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg. Yn yr achos hwn, Gwenno Ffrancon ac Elain Dafydd o brifysgol Abertawe oedd yn arwain fel arbenigwyr pwnc, gyda chydweithrediad darlithwyr o brifysgolion eraill yng Nghymru sy’n ymddiddori yn y maes trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r rhan gyntaf o’r geiriadur, sy’n ymdrin yn bennaf â’r Cyfryngau Newydd, bellach ar gael ar-lein ar safle ein Canolfan Safoni Termau (http://www.termau.org/), neu gellir mynd ato’n uniongyrchol ar http://www.termau.org/cyfryngau/. Y nod yw ychwanegu rhagor o feysydd pwnc ym maes y Cyfryngau Creadigol ato yn y dyfodol, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ymhellach gyda chriw difyr y Panel Rhwydwaith hwn.

« BlaenorolNesaf »