Y blog cyntaf sy’n siarad Cymraeg
Ddoe, fe wnaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg lansio gwasanaeth Readspeaker XT ar eu gwefan nhw. Mae Readspeaker yn cynnig ffordd hwylus i roi gwasanaeth testun-i-leferydd ar unrhyw wefan, heb orfod gosod meddalwedd arbennig ar y wefan honno na llwytho dim i lawr at gyfrifiadur y defnyddiwr. Ar gyfer y Gymraeg, mae Readspeaker wedi partneru gyda ni, a defnyddio fersiwn arbennig o un o’n lleisiau Cymraeg sy’n rhedeg o fewn fframwaith Festival.
Yn hyn o beth, mae’r Bwrdd yn dilyn trywydd Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint, sydd hefyd wedi lansio gwasanaeth Readspeaker Cymraeg ar eu gwefannau’n ddiweddar. Mae hi wedi bod yn ddiddorol gweld ymateb eraill i’r llais Cymraeg - mae Dafydd wedi cymharu ei ansawdd â’r llais Saesneg a gwneud y pwynt, yn ddigon teg, bod hwnnw’n adlewyrchu blynyddoedd os nad degawdau yn fwy o ymchwil, a llawer mwy o fuddsoddiad hefyd.
Gan taw ni ddatblygodd y llais, dyma gynnig i chi gyfle i glywed Readspeaker yn llefaru’r blog hwn hefyd. Dyma gyswllt i chi gychwyn, neu fe allwch chi ddefnyddio’r cyswllt parhaol ‘Dechreuwch Wrando’ ar y bar ochr hefyd. Defnyddiwch, mwynhewch, ac fe fydden ni’n gwerthfawrogi unrhyw sylwadau.
