Arddangosfa o gynnyrch Canolfan Bedwyr yn yr Urdd
Bydd arddangosfa aml-gyfrwng o gynnyrch Canolfan Bedwyr i’w gweld ym Mhabell y Dysgwyr yn yr Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon. Bydd modd i ymwelwyr ddefnyddio un o’r deg cyfrifadur yn y babell i weld demos o Cysill a Cysgeir ar waith, yn ogystal â chwarae rhai o’r gemau iaith a ddatblygodd y ganolfan ar gyfer gwefan BBC Cymru. Galwch heibio i gael golwg!

Ysgol Cyfrifiadureg Bangor yn llwyddo yn rhestrau Y Guardian
Llongyfarchiadau i’n gyfeillion yn Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Cymru, Bangor sydd wedi eu enwi fel y pedwaredd Brifysgol gorau yn y Deyrnas Unedig i astudio Cyfrifiadureg a TG gan Y Guardian.
The Guardian rates Bangor Computer Science
Congratulation to our colleagues at the Computer Science department in Bangor who have been rated as the fourth best University in the United Kingdom for studying the Computer Sciences and IT.
Anerchwch y byd i gyd….
Mae ‘na wasanaeth hwylus newydd wedi ymddangos yn y Rhithfro i’r sawl sydd am gynnal blog yn Gymraeg drwy gyfrwng rhaglen Cymraeg. Enw’r gwasanaeth yw Nireblog ac mae wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg (http://nireblog.com/cy) gan griw Meddal.com a Rhys Wynne.
Pan gychwynnon ni’r blog yma, roedd hi’n dipyn o waith i osod WordPress a’r pecynnau iaith Cymraeg ar ein gweinydd. Ond gyda Nireblog gallwch osgoi’r fath ffwdan dechnegol.
Mae’r cyfieithwyr yn hysbysu bod gwirydd sillafu Firefox, Cysill a Cysgeir yn gweithio o’i fewn drwy gyfrwng ‘bysell boeth’.
Does dim esgus nawr rhag annerch y byd i gyd…
Sleidiau Technoleg I Genedl Fach
Dyma arbrofi hefyd gyda Slideshare.net :
