Geiriau am eiriau: Blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Murmur

Geiriau am eiriau: blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Meddalwedd yng Nghymru : Strwythuro Llwyddiant

Echddoe fe wnaethon ni gyflwyniad o’r enw ‘Datblygu Meddalwedd ar gyfer Amgylchoedd Amlieithog ac Amlddiwylliannol‘ (pdf) i gynhadledd ITWales ar Feddalwedd yng Nghymru.

Fe wnaethon ni ddisgrifio’n fras ein perthynas ni, fel technolegwyr iaith sy’n bennaf ymwneud â’r Gymraeg, â meddalwedd amlieithog. Fe wnaethon ni arddangos hyn drwy ein gwaith terminoleg a thechnoleg lleferydd. Hefyd, fe ddisgrifion ni’r gwahanol fathau o feddalwedd amlieithog sydd wedi bodoli hyd yn hyn.

Yn draddodiadol, y syniad o feddalwedd amlieithog yw pecyn sy’n cynnig ei ryngwyneb mewn ieithoedd gwahanol. Ond dim ond crafu’r wyneb yw hyn: rhaid cynnal amlieithrwydd yn rhesymeg y rhaglen a’r haenau cynnwys/data, er mwyn i’r systemau gynnal diwylliant ac iaith y defnyddiwr yn llawn. Fe wnaethon ni son am y rheidrwydd i feddalwedd amlieithog, yn enwedig yng Nghymru, gynnal mwy nag un iaith ar y tro, yn hytrach nag ieithoedd ar eu pen eu hun, a galluogi croesi rhyngddynt ar bob lefel.

Fe wnaethon ni hefyd drafod ein gwaith technoleg lleferydd, gan son am yr hyn wnaeth ein symbylu i ddatblygu systemau testun-i-leferydd a’u haddasu at amgylchoedd a geirfaoedd penodol. Fe sonion ni hefyd am y gwaith integreiddio wnaed gyda’n lleisiau testun-i-leferydd, o fewn fframwaith SAPI Microsoft yn ogystal â system Readspeaker.

Diolch yn fawr i Christine, Beti a Sali o ITWales Abertawe am drefnu’r gynhadledd.

Software in Wales : Structuring Success

On Wednesday we presented ‘Developing Software for Multilingual and Multicultural Environments (pdf)’ at the ITWales conference on Software in Wales.

We briefly described what relation we, as primarily Welsh language technologists, have to multilingual software. We went on to demonstrate this with our terminology and speech technology work. We also briefly described the various types of popular multilingual software that has existed to date.

Software is usually perceived to be multilingual if it offers its GUI in various languages. But we described that this is only skin deep and that multilingual support needs to be present in the business logic and the content/data layers in order to complete the user’s expectations for systems to support his/her language and culture. We mentioned that multilingual software, especially in Wales, needs to support more than one language at a time, rather than in isolation of each other, and enable crossing between them all at all levels.

We also discussed our speech technology work, detailing the motivation for developing text-to-speech systems and their tailoring for particular environments and vocabularies. We also spoke about the integration work accomplished for our text-to-speech voices, both within Microsoft’s SAPI framework and within the ReadSpeaker system.

Many thanks to Christine, Beti and Sali at ITWales in Swansea for organising.

Blog Technolegau Iaith Gwyddeleg

Mawrth 15, 2007 gan Dewi
Adran: Iaith: Cymraeg, Terminoleg - Terminology

Dyma flog technolegau iaith yn Wyddeleg gan Michal Boleslav Mechura o Dublin City University - An Cainteoir Dóchais.

Rydym yn nabod Michael o’r project safoni termau Gwyddeleg - Focal.ie

Dwi ddim yn deall llawer o Wyddeleg, ond mae ‘na dipyn o newyddion ac erthyglau yn Saesneg am dechnolegau iaith sydd o ddiddordeb i Michal tu ôl i’r cyswllt ‘Etc’ ar frig y dudalen.