Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7
Mae rhai defnyddwyr wedi cael trafferthion gosod Cysgliad ar rai peiriannau sy’n rhedeg Windows 7.
Erbyn hyn mae diweddariad ar gael sy’n datrys y problemau a oedd yn effeithio ar rai defnyddwyr Windows 7. Mae modd llwytho’r diweddariad hwn i lawr o wefan Cysgliad.
Mewngofnodwch i wefan Cysgliad gan ddefnyddio manylion eich cyfrif personol ac yna dilynwch y dolenni at y pecyn diweddaru. Os nad ydych yn cofio neu’n gwybod beth yw eich cyfrinair yna cliciwch ar y ddolen “Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi?“
Cysill, Microsoft Office ac Windows 7
Mae’n ymddangos nad yw Cysill o fewn Microsoft Office ar Windows 7 yn gweithio cystal ag y dylai ar rai cyfrifiaduron.
Gall y botwm ‘Gwirio Dogfen’ yn Word achosi neges debyg i’r canlynol i rai defnyddwyr:
‘Could not create CysillWaiter object. Please ensure the DLL CysillWaiter is registered or try running ‘Cysill 3.0′ from the start Menu and choose ‘Gosod->Gosod Bar Offer Word’ from the ‘File’ menu. If this problem persists consult Canolfan Bedwyr.’
Mae’r erthygl hon am geisio esbonio sut gallwch ddatrys hyn drwy lwytho’r ffeil DLL CysillWaiter i lawr a’i chofrestru ar eich cyfrifiadur. Yn anffodus, mae’n eithaf technegol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth i’w dilyn.
Yn gyntaf llwythwch CysillWaiter.dll o’r cyswllt yma :
http://www.e-gymraeg.org/downloads/cysgliad/cysillwaiter.dll
a’i chadw ar eich gyfrifiadur yn ffolder gosodiad Cysill, sef : C:\Program Files\Canolfan Bedwyr\Cysgliad\Cysill
Nesaf, agorwch Windows Explorer (neu ‘My Computer’/'Cyfrifiadur’) ac ewch i C:\Windows\System32. Yn y rhestr hir o ffeiliau mae un o’r enw ‘cmd‘ neu ‘cmd.exe‘. De gliciwch ar hon a dewisiwch ‘Run as administrator‘.
Mae ffenestr ddu yn ymddangos gyda’r testun canlynol:
Microsoft Windows [Version 6.0.6002]
Copyright (c) 2006 Microsoft Corporation.
All rights reserved.
C:\Windows\system32>
Ewch yn ôl at ffolder Cysill yn y ffenestr ddu newydd drwy deipio :
cd C:\Program Files\Canolfan Bedwyr\Cysgliad\Cysill
ac yna rhedwch :
regsvr32 CysillWaiter.dll
drwy ei deipio ac wedyn pwyso ‘return’ neu ‘enter’.
Os oes neges yn ymddangos i gadarnhau bod y cofrestru wedi llwyddo, yna dylai’r botwm ‘Gwirio Dogfen’ yn Word yn awr weithio.
Os ydych yn dal i gael problemau ac mae’r neges canlynol yn ymddangos :
“Could not create Cysill object. Try running Cysill 3.0 from the start menu. If this problem persists, consult Canolfan Bedwyr.”
yna mae angen dechrau Cysill o flaen llaw o ddewislen cychwyn arferol Windows 7, trwy de glicio a dewis ‘Run as Administrator’.
Gobeithio y bydd hynna’n gymorth i chi, a chofiwch fod modd i chi gysylltu â ni os ydych chi’n dal i gael problemau.
Diweddariadau Cysill a Cysgeir, Hydref 2008
Yn dilyn ein diweddariad ar gyfer Cysill 3.0 , mae diweddariad o fersiwn cartref Cysgeir 1.0 nawr hefyd ar gael. Os nad yw Cysgeir ei hun wedi eich hysbysu o’r diweddariad, yna dewiswch o’r brif ddewislen
- Help -> Chwilio am ddiweddariad
neu
- Ymddangosiad -> Dewisiadau -> Diweddaru -> Edrych Nawr
Yn niweddariad Cysgeir
- ceir trefn newydd o dderbyn geiriaduron newydd a diweddaru rhai sydd eisoes ar gael.
- cyflymwyd Cysgeir wrth gychwyn
- cynorthwyir OpenOffice.org 3.0
Wedi i chi ddiweddaru’n llwyddiannus, dewiswch o’r brif ddewislen
- Cymorth -> Chwilio am Ddiweddariadau Geiriaduron
Mae yno rai cywiriadau i eiriadur Cysgair (y geiriadur cyffredinol cynhwysfawr o fewn Cysgeir), fersiwn newydd o Y Termiadur (sy’n disodli Y Termiadur Ysgol) a’r geiriaduron termau newydd canlynol :
- Termau Gofal Iechyd Pobl Hŷn
- Termau Therapi Galwedigaethol
Cysill, diweddariad fersiwn cartref, Hydref 2008
Mae diweddariad o fersiwn cartref Cysill 3.0 nawr ar gael. Os nad yw Cysill ei hun wedi eich hysbysu o’r diweddariad, yna dewiswch o’r brif ddewislen
- Help -> Chwilio am ddiweddariad
Yn y diweddariad hwn
- ceir ychwanegiadau i lecsicon sillafu a chronfa rheolau gramadeg Cysill
- datryswyd problemau gyda marciau cwestiwn mewn dogfennau
- cyflymwyd Cysill wrth gychwyn
- cynorthwyir OpenOffice.org 3.0
