Ysgoloriaeth Meistr ar gael
Mae yma gyfle ardderchog i rywun sydd â diddordeb mewn gramadeg ac offer prawf ddarllen Cymraeg i gael ysgoloriaeth blwyddyn gyda ni yma yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.
Dyma’r manylion yn llawn :
Ysgoloriaeth: Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg
Gradd Meistr drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg.
Telir ysgoloriaeth blwyddyn o £9K ynghyd â’r ffioedd cofrestru a chyllideb deithio a datblygu hael i’r myfyriwr llwyddiannus.
Ar gael i ddechrau arni cyn gynted ag y bo modd.
Ysgoloriaeth MRes
Teitl: “Astudiaeth o wallau cyffredin Cymraeg yng nghorpws Cysill ar-lein a goblygiadau hynny o ran creu offer prawf ddarllen i’r diwydiant cyfieithu”
Cefndir: Seilir y project hwn ar gorpws newydd sy’n cael ei gasglu o destunau Cymraeg gwallus yn deillio o’r fersiwn ar-lein o Cysill (meddalwedd gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg). Bydd y project yn dadansoddi’r corpws o ran natur a mynychder y gwallau gramadegol. Edrychir yn benodol ar nodweddion sy’n dangos ôl y Saesneg ar y Gymraeg. Defnyddir y canfyddiadau hynny wrth lunio argymhellion i wella rheolau gramadeg Cysill a chreu offer prawf ddarllen penodol i gyfieithwyr eu defnyddio i wella’u cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg.
Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru fel partner allanol y project.
Goruchwylwyr Academaidd:
Y goruchwylwyr fydd Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a’r Athro Margaret Deuchar o’r Ysgol Ieithyddiaeth a’r Ganolfan Dwyieithrwydd.
Bydd y myfyriwr yn gweithio yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a bydd yn cofrestru yn Ysgol Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, at ddibenion datblygiad academaidd ac arholi.
Cymwysterau angenrheidiol:
Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd dosbarth cyntaf neu ail uchaf mewn pwnc perthnasol (ieithyddiaeth, Cymraeg neu iaith fodern arall etc). Gorau oll os gallant ddangos prawf o ddiddordeb blaenorol yn y maes, er enghraifft project ymchwil perthnasol fel rhan o gwrs gradd.
Rhaid i fyfyrwyr sydd am fanteisio ar y cynllun hwn fod yn byw o fewn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru pan gânt eu cofrestru a rhaid iddynt fod yn gymwys i dderbyn gwaith cyflogedig yn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru ar ddiwedd yr ysgoloriaeth.
I wneud cais:
Os hoffech ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon danfonwch y canlynol at Delyth Prys erbyn 9 Hydref 2009 fan bellaf.
1. ffurflen gais KESS (sydd ar gael o wefan Prifysgol Bangor) i gynnwys Datganiad Personol (100 - 500 gair) am eich diddordebau a’ch sgiliau ymchwil perthnasol (rhestrwch eich holl sgiliau perthnasol, e.e. sgiliau cyfrifiadurol, profiad perthnasol, teitl a disgrifiad byr o brojectau ymchwil y buoch yn rhan ohonynt, etc).
2. Enwau a manylion cyswllt dau ganolwr a all roi sylwadau ar eich addasrwydd i ymgymryd â rhaglen ymchwil ôl-raddedig.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau e-bost yw 9 Hydref 2009. Dylech yrru copi caled wedi’i lofnodi hefyd at:
Delyth Prys
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2PZ

Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Delyth Prys; ffôn: +44 1248 382800; e-bost d.prys@bangor.ac.uk.
Dyddiad cau i geisiadau: 9 Hydref 2009
Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal
