Geiriau am eiriau: Blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Murmur

Geiriau am eiriau: blog Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Diweddariad Cysgliad ar gael ar gyfer Windows 7

Mehefin 6, 2010 gan murmur
Adran: Diweddariadau, Cysgliad, Iaith: Cymraeg

CysgliadMae rhai defnyddwyr wedi cael trafferthion gosod Cysgliad ar rai peiriannau sy’n rhedeg Windows 7.

Erbyn hyn mae diweddariad ar gael sy’n datrys y problemau a oedd yn effeithio ar rai defnyddwyr Windows 7. Mae modd llwytho’r diweddariad hwn i lawr o wefan Cysgliad.

Mewngofnodwch i wefan Cysgliad gan ddefnyddio manylion eich cyfrif personol ac yna dilynwch y dolenni at y pecyn diweddaru. Os nad ydych yn cofio neu’n gwybod beth yw eich cyfrinair yna cliciwch ar y ddolen “Wedi anghofio eich manylion mewngofnodi?

Cysgliad update for Windows 7 now available

Mehefin 6, 2010 gan murmur
Adran: Updates, Cysgliad, Language: English, Heb Gategori

CysgliadSome users have had some problems installing Cysgliad on some Windows 7 machines.

An update that resolves all these issues is now available for download from the Cysgliad website.

Log in to the Cysgliad website with your Cysgliad website account details and follow the links to the download the installer. If you don’t have or can’t remember your login details then click on the “Forgotten your login details?” link.

Gwobr

Derbyn Gwobr

Mae’r Uned a chwmni meddalwedd Semantise Cyf wedi ennill gwobr am gwblhau’r KTP byr cyntaf yn llwyddiannus drwy Brydain.

http://www.bangor.ac.uk/news/full.php.cy?Id=1172

Nod y project oedd i ddatblygu system adroddiadau ysgol ddwyieithog gan integreiddio offer prawf ddarllen Cymraeg ac amlieithog i’r feddalwedd osisadrodd.

Cysill, Microsoft Office ac Windows 7

Ionawr 11, 2010 gan murmur
Adran: Diweddariadau, Cysgliad, Iaith: Cymraeg

Mae’n ymddangos nad yw Cysill o fewn Microsoft Office ar Windows 7  yn gweithio cystal ag y dylai ar rai cyfrifiaduron.

Gall y botwm ‘Gwirio Dogfen’ yn Word achosi neges debyg i’r canlynol  i rai defnyddwyr:

Could not create CysillWaiter object. Please ensure the DLL CysillWaiter is registered or try running ‘Cysill 3.0′ from the start Menu and choose ‘Gosod->Gosod Bar Offer Word’ from the ‘File’ menu. If this problem persists consult Canolfan Bedwyr.’

Mae’r erthygl hon am geisio esbonio sut gallwch ddatrys hyn drwy lwytho’r ffeil DLL CysillWaiter i lawr a’i chofrestru ar eich cyfrifiadur. Yn anffodus, mae’n eithaf technegol, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os ydych yn cael trafferth i’w dilyn.

Yn gyntaf llwythwch CysillWaiter.dll o’r cyswllt yma :

http://www.e-gymraeg.org/downloads/cysgliad/cysillwaiter.dll

a’i chadw ar eich gyfrifiadur yn ffolder gosodiad Cysill, sef :  C:\Program Files\Canolfan Bedwyr\Cysgliad\Cysill

Nesaf, agorwch Windows Explorer (neu ‘My Computer’/'Cyfrifiadur’) ac ewch i C:\Windows\System32. Yn y rhestr hir o ffeiliau mae un o’r enw ‘cmd‘ neu ‘cmd.exe‘. De gliciwch ar hon a dewisiwch ‘Run as administrator‘.

Mae ffenestr ddu yn ymddangos gyda’r testun canlynol:

Microsoft Windows [Version 6.0.6002]
Copyright (c) 2006 Microsoft Corporation.
All rights reserved.

C:\Windows\system32>

Ewch yn ôl at ffolder Cysill yn y ffenestr ddu newydd drwy deipio :

cd C:\Program Files\Canolfan Bedwyr\Cysgliad\Cysill

ac yna rhedwch :

regsvr32 CysillWaiter.dll

drwy ei  deipio ac wedyn pwyso ‘return’ neu ‘enter’.

Os oes neges yn ymddangos i gadarnhau bod y cofrestru wedi llwyddo, yna dylai’r botwm ‘Gwirio Dogfen’ yn Word yn awr weithio.

Os ydych yn dal i gael problemau ac mae’r neges canlynol yn ymddangos :

Could not create Cysill object. Try running Cysill 3.0 from the start menu. If this problem persists, consult Canolfan Bedwyr.”

yna mae angen dechrau Cysill o flaen llaw o ddewislen cychwyn arferol Windows 7, trwy de glicio a dewis ‘Run as Administrator’.

Gobeithio y bydd hynna’n gymorth i chi, a chofiwch fod modd i chi gysylltu â ni os ydych chi’n dal i gael problemau.

Ysgoloriaeth Meistr ar gael

Mae yma gyfle ardderchog i rywun sydd â diddordeb mewn gramadeg ac offer prawf ddarllen Cymraeg i gael ysgoloriaeth blwyddyn gyda ni yma yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

Dyma’r manylion yn llawn :

Ysgoloriaeth: Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg

Gradd Meistr drwy Ymchwil  mewn Astudiaethau Corpws a’r Gymraeg.

Telir ysgoloriaeth blwyddyn o £9K ynghyd â’r ffioedd cofrestru a chyllideb deithio a datblygu hael i’r myfyriwr llwyddiannus.

Ar gael i ddechrau arni cyn gynted ag y bo modd.
Ysgoloriaeth MRes

Teitl: “Astudiaeth o wallau cyffredin Cymraeg yng nghorpws Cysill ar-lein a goblygiadau hynny o ran creu offer prawf ddarllen i’r diwydiant cyfieithu”

Cefndir:  Seilir y project hwn ar gorpws newydd sy’n  cael ei gasglu o destunau Cymraeg gwallus yn deillio o’r fersiwn ar-lein o Cysill (meddalwedd gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg). Bydd y project yn dadansoddi’r corpws o ran natur a mynychder y gwallau gramadegol. Edrychir yn benodol ar nodweddion sy’n dangos ôl y Saesneg ar y Gymraeg. Defnyddir y canfyddiadau hynny wrth lunio argymhellion i wella rheolau gramadeg Cysill a chreu offer prawf ddarllen penodol i gyfieithwyr eu defnyddio i wella’u cyfieithiadau o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Ariannir y project hwn yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop (ESF) ac fe’i noddir hefyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru fel partner allanol y project.

Goruchwylwyr Academaidd:
Y goruchwylwyr fydd Delyth Prys o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a’r Athro Margaret Deuchar o’r Ysgol Ieithyddiaeth a’r Ganolfan Dwyieithrwydd.

Bydd y myfyriwr yn gweithio yn Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a bydd yn cofrestru yn Ysgol Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor, at ddibenion datblygiad academaidd ac arholi.

Cymwysterau angenrheidiol:
Rhaid i ymgeiswyr fod â gradd dosbarth cyntaf neu ail uchaf mewn pwnc perthnasol (ieithyddiaeth, Cymraeg neu iaith fodern arall etc). Gorau oll os gallant ddangos prawf o ddiddordeb blaenorol yn y maes, er enghraifft project ymchwil perthnasol fel rhan o gwrs gradd.

Rhaid i fyfyrwyr sydd am fanteisio ar y cynllun hwn fod yn byw o fewn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru pan gânt eu cofrestru a rhaid iddynt fod yn gymwys i dderbyn gwaith cyflogedig yn yr ardal Cydgyfeiriant yng Nghymru ar ddiwedd yr ysgoloriaeth.

I wneud cais:
Os hoffech ymgeisio am yr ysgoloriaeth hon danfonwch y canlynol at Delyth Prys erbyn 9 Hydref 2009 fan bellaf.

1. ffurflen gais KESS (sydd ar gael o wefan Prifysgol Bangor) i gynnwys Datganiad Personol (100 - 500 gair) am eich diddordebau a’ch sgiliau ymchwil perthnasol (rhestrwch eich holl sgiliau perthnasol, e.e. sgiliau cyfrifiadurol, profiad perthnasol, teitl a disgrifiad byr o brojectau ymchwil y buoch yn rhan ohonynt, etc).

2. Enwau a manylion cyswllt dau ganolwr a all roi sylwadau ar eich addasrwydd i ymgymryd â rhaglen ymchwil ôl-raddedig.

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau e-bost yw 9 Hydref 2009. Dylech yrru copi caled wedi’i lofnodi hefyd at:

Delyth Prys
Uned Technolegau Iaith
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor
Bangor
Gwynedd
LL57 2PZ

ESF

Gellir cael manylion pellach drwy gysylltu â Delyth Prys; ffôn: +44 1248 382800; e-bost d.prys@bangor.ac.uk.
Dyddiad cau i geisiadau: 9 Hydref 2009
Wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal

Llongyfarchiadau i Google

Awst 27, 2009 gan murmur
Adran: Iaith: Cymraeg, Newyddion - News, Cyffredinol - General

Google TranslateDdoe cyhoeddodd Google eu bod wedi ychwanegu Cymraeg at yr ieithoedd sydd ar gael ar gyfer cyfieithu awtomatig, neu gyfieithu peirianyddol, yn Google Translate.

Ar yr un pryd fe ychwanegwyd Affricaneg, Belarwseg, Eislandeg, Gwyddeleg, Macedoneg, Maleieg, Swahili, ac Iddew-Almaeneg. Mae hyn yn dod â chyfanswm yr ieithoedd sy’n cael eu cynnig gan Google i 51.

Weler :

http://googleblog.blogspot.com/2009/08/google-translate-now-speaks-51.html

http://googleresearch.blogspot.com/2009/08/51-languages-in-google-translate.html

Dulliau ystadegol o gyfieithu peirianyddol sy’n galluogi’r cyfieithiadau yma – hynny yw, mae Google yn defnyddio’r swmp anferthol o destunau sydd ar gael ar y we i  ganfod patrymau tebyg yn eu geiriau a thrwy ddefnyddio testunau cyfochrog mewn gwahanol ieithoedd maent yn chwydu allan yr hyn sy’n cyfateb agosaf mewn iaith arall.

Dyw’r dechnoleg ddim yn berffaith eto, ac un o’n pryderon yw y bydd sefydliadau a chwmnïau diegwyddor yn camddefnyddio’r dechnoleg i greu cyfieithiadau carbwl. Mae digon o sefydliadau sydd am honni eu bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Iaith, ond heb falio nad yw’r cyfieithu yn ddealladwy heb sôn am fod yn raenus, ac mae’n siŵr fod y demtasiwn yno iddynt ddefnyddio gwasanaeth awtomatig rhad ac am ddim fel hwn. Nid dyna fwriad Google Translate wrth gwrs: y nod yw cynnig brasgyfieithu ar gyfer pobl na allai ddarllen y testun dan sylw o gwbl fel arall, a hefyd gynnig testun amrwd y gall cyfieithydd dynol weithio arno ymhellach  i’w fireinio cyn ei gyhoeddi.

Wedi dweud hynny, mae Google wedi cyflawni cryn gamp gyda’u cyfieithu peirianyddol o’r Gymraeg i’r Saesneg. Nid yw’r cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg gystal, ond mae hwnnw hefyd yn dangos addewid. Mae’r gallu i gyfieithu rhwng y Gymraeg a ieithoedd eraill hefyd yn un defnyddiol iawn, gan fod y gwasanaeth cyfieithu yn cael ei gynnig rhwng pob un o’r 51 iaith sydd yn Google Translate. Mae’n edrych fel bod Saesneg yn cael ei defnyddio fel ‘rhyngiaith’ yn y cyfieithiadau, roedd y Tseinëeg er enghraifft yn dangos ôl trefn geiriau Saesneg yn y Gymraeg.

Rydym ni’n gobeithio mai dechrau’r daith yw hyn i Google, ac y bydd yna welliannau pellach i’r system. Gall hyn fod yn newyddion da hefyd i’r byd cyfieithu yng Nghymru. Fel y gwyddom, mae’r galw am gyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn ddihysbydd bron. Bydd gwell offer brasgyfieithu yn galluogi cyfieithwyr i gyfieithu mwy o destunau mewn llai o amser. Bydd hyn hefyd yn cadw cost cyfieithu o fewn terfynau rhesymol. Gall hefyd olygu nad oes raid cyfieithu pob dim o’r Gymraeg i’r Saesneg, lle bo brasgyfieithiad yn ddigon da. Oes angen i ni gyfieithu cofnodion blog Murmur i’r Saesneg o hyn allan felly? Cawn weld – ond yn y cyfamser, llongyfarchiadau calonnog i Google ar eu hymdrech gyntaf gyda’r Gymraeg.

Congratulations Google

Awst 27, 2009 gan murmur
Adran: Language: English, Newyddion - News, Cyffredinol - General

Google TranslateYesterday Google added the Welsh language to the list of languages supported by their automatic translation, or machine translation service, Google Translate.

At the same time Google added Afrikaans, Belarussian, Iclandic, Irish, Macedonian, Malayan, Swahili and Yiddish. This brings the total amount of languages supported by Google Translator to 51.

See :

http://googleblog.blogspot.com/2009/08/google-translate-now-speaks-51.html

http://googleresearch.blogspot.com/2009/08/51-languages-in-google-translate.html

These translations are produced by statistical approaches to machine translation - that is, Google uses the vast amounts of text on the web in order to find patterns between the words, and by using parallel texts of different languages are able to produce what appear to be translations.

The technology isn’t perfect yet, and one of our worries is that unscrupulous organisations and companies will misuse the technology to produce inferior Welsh language translations. Some organisations that claim conformance to the Welsh Language Act are likely to be very tempted to use a free automatic service such as this without a care for the legibility and linguistic correctness of their texts in Welsh. This of course was not the intended purpose of Google Translate : its aim is to provide a gist translation that allows a user to read and understand texts that are in otherwise unaccessable languages, and also to provide initial rough translation for a human translator to work on before being properly published.

However, Google have achieved quite a feat with their automatic translation for Welsh to English. Translating from English to Welsh is not as good, but it looks promising. The ability to translate between Welsh and other languages is a very useful feature, since the service translates between all possible language pairs of the 51 supported languages. It appears English is used as an intra-language in the translating, translating from Chinese for example shows the English word ordering in the Welsh translations.

We hope that this is only the beginning for Google and that further improvements will come. This could be good news for the translation industry in Wales. As we know, the demand for translations between Welsh and English is virtually inexhaustible. Improved tools for initial rough translations will allow translators to translate more texts in less time. This will keep costs down to reasonable limits. It could also mean that there could be no need to translate from Welsh to English anymore, since a gist translation might be sufficient. Will we still need to translate our own Murmur blog entries from Welsh to English from now on? We’ll see – but in the meantime, very warm congratulations to Google on their first efforts with Welsh-language translation.

Cysill Ar-lein

Ddoe ar faes yr Eisteddfod fe lansion ni, gyda’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, fersiwn ar-lein o Cysill.

Y cyfeiriad yw  http://www.cysgliad.com/cysill/arlein

Lansio Cysill Ar Lein12

Gobeithiwn bydd llawer yn ei ddefnyddio ac yn cael budd ohono wrth ysgrifennu ac awduro testunau a chynnwys Cymraeg.

Mae’r wefan yn darparu ffordd i alluogi defnyddio gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg am ddim, ac os oes gennych gyswllt rhyngrwyd da, i wneud hynny ar unrhyw lwyfan cyfrifiadura, boed yn Linux, Windows, Mac OS X neu unrhyw ddyfais symudol.

Rhagor ynghylch y lansiad :

A lluniau (diolch i darganfyddiad)

Mae Cysill 3.0 o fewn y pecyn Cysgliad dal yn bodoli hefyd a bydd dim newid i’r gwasanaeth cymorth, cynnal a chadw arferol. Gwefan Cysgliad yw http://www.cysgliad.com

Cylch newydd gwerth ei halen

Newyddion da o lawenydd mawr! Mae’r Uned wedi ennill grant dwy flynedd i sefydlu rhwydwaith ymchwil rhwng diwydiant ac academia yng Nghymru ym maes Technolegau Iaith a Lleferydd.

Bydd hyn yn ein galluogi ni yng Nghymru i fanteisio ar ein dwyieithrwydd i greu adnoddau a chymwysiadau a fydd yn gwella’r ffordd rydyn ni’n rhyngwynebu gyda chyfrifiaduron yn y Gymraeg, fel yn achos ein llais synthetig sydd i’w gael ar sawl gwefan erbyn hyn. Bwriedir y bydd y project hefyd yn rhoi hwb i ddiwydiant Cymru ac yn eu galluogi i fanteisio ar yr arbenigrwydd hwnnw’n fasnachol, yng Nghymru ac yn y byd mawr amlieithog tu hwnt.

Bydd y cylch ymchwil yn trefnu nifer o seminarau ar gyfer busnes ac academia, gan wahodd siaradwyr rhyngwladol ac arbenigwyr brodorol o Brifysgolion Cymru i rannu o’u doethineb.

Byddwn yn darparu cymorth i gwmnïau sydd â diddordeb yn y maes, gan fynd ati i drafod cynnal projectau ar y cyd. Bydd yr uned hefyd yn cynorthwyo busnesau i geisio am arian o ffynonellau ariannu addas er mwyn iddynt allu datblygu eu cynnyrch a’u gwasanaethau - rhywbeth y mae’r uned wedi’i wneud yn llwyddiannus sawl gwaith yn y gorffennol.

Cadwch lygad ar ein blog am fanylion y digwyddiad lansio fis nesaf!

Gwefan y project: http://www.saltcymru.org

Datganiad i’r Wasg: Cymru’n Labordy Byw

A Special Interest Group that’s worth it’s SALT

We are very happy at the news that our Unit has been awarded a two year grant to establish a special interest group between industry and academia in Wales in the field of Speech and Language Technologies. (SALT)

The project will provide a boost not only to existing research and development in SALT but also to their commercial exploitation by Welsh industry and businesses both within a bilingual Wales and the multilingual world beyond.

We shall be assisting companies with an interest in the developing their products and services further with Speech and Language Technologies, and will be looking to identify projects which can be undertaken together with Welsh academia. The unit will also aid businesses in applying for funding from appropriate funding sources – a role that our unit has successfully undertaken many times in the past.

In addition the special interest group will allow us to organize a number of seminars for business and academia, where both international speakers and experts from Welsh universities will be invited to share from their expertise.

Keep an eye on this blog for detail of the launch event next month!

The Special interest group’s website is : http://www.saltcymru.org

Press Release : Wales a Living Laboratory

Nesaf »